Ceir tair rhan i'r dudalen hon: Teithio..., Amser a dyddiad , Dull o Gludiant .
Yn y rhan Teithio..., teipiwch y man yr ydych am deithio oddi yno ac i ble yr hoffech fynd. Rhaid i chi fewnbynnu rhywbeth yn y ffenestri O ac I. Gallwch deipio cyfeiriadau, codau post, enwau strydoedd, enwau arosfannau bysiau neu leoliadau.
Os ydych am adael yn fuan, gallwch adael y rhan Amser a dyddiad fel ag y mae. Gallwch newid y dyddiad a'r amser yr hoffech adael, gan gynllunio eich taith hyd at fis o flaen llaw. Mewnbynnwch amser gan ddefnyddio cloc 24 awr (09:00 yw naw yn y bore, 21:00 yw naw y nos). Fel rheol, byddwch yn cynllunio taith i adael ar amser penodol, ond gallwch gynllunio taith sy'n cyrraedd ar amser penodol hefyd os hoffech - cliciwch fel bod y dot wrth ymyl Cyrraedd erbyn.
Fel rheol, bydd eich taith yn cynnwys unrhyw Ddull o Gludiant sydd ar gael. Er mwyn dewis y dulliau o gludiant yr hoffech eu defnyddio, cliciwch y botwm newid er mwyn gweld y dulliau teithio posibl. Os nad ydych am deithio ar drên neu ar fws, gallwch glicio wrth ymyl Trên neu Bws er mwyn dileu y tic yn y blwch. Cliciwch eto er mwyn adfer y tic.
Pan fyddwch yn hapus eich bod wedi mewnbynnu y dewisiadau cywir ar gyfer eich taith ar y dudalen hon, cliciwch ar y botwm chwilio.... Bydd hyn yn eich tywys at dudalennau eraill lle gallwch gadarnhau eich dewisiadau.
The browser you are using is currently unsupported, for more details visit here.